Mae teulu Carson Price, y bachgen 13 oed fu farw ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol mewn parc yn Ystrad Mynach, wedi talu teyrnged iddo.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty nos Wener (Ebrill 12), lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r defnydd posib o sylweddau anghyfreithlon cyn ei farwolaeth.

‘Caredig a chariadus’

“Roedd Carson yn ddisglair a gofalgar, caredig a chariadus, roedd e’n fachgen bach hy,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo.

“Fe oedd y brawd mawr gorau ac roedd yn cael ei garu gan gynifer a fydd yn gweld ei golli.”

Does dim eglurhad am ei farwolaeth hyd yn hyn, ac mae’r ymchwiliad yn parhau wrth i’r heddlu apelio am wybodaeth.