Mae ymgyrch i warchod wal ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi codi dros £3,000 ers y newyddion am ei ddifrodi fore ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

Elfed Wyn Jones, un o’r rhai fu’n ail-baentio’r wal yn Llanrhystud ac sydd wedi bod yn helpu i’w drwsio, sydd wedi sefydlu’r ymgyrch ar wefan Go Fund Me.

Mae gan yr ymgyrch nod o £20,000 ac fe ddaw ar ôl i Wynne Melville Jones fod yn galw am ei gwarchod.

“Mae’r murlun hwn yn dirnod pwysig yn hanes Cymru, oedd yn symboleiddio’r loes a’r boen a gafodd eu hachosi gan foddi pentref Tryweryn yn y 1960au,” meddai gwefan yr ymgyrch.

“Ar ôl i’r murlun gael ei ddifrodi sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, rydym am sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”