Y Barri 0–4 Y Seintiau Newydd                                                     

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru unwaith eto wedi iddyn nhw drechu’r Barri ar Barc Jenner nos Sadwrn (Ebrill 13).

Enillodd y Seintiau’r bencampwriaeth am yr wythfed tymor yn olynol wedi i goliau Draper, Mullan, Edwards a Routledge sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y de ddwyrain.

Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Greg Draper y sgorio, y blaenwr yn gorffen yn gelfydd ar y foli wedi peniad perffaith Aeron Edwards i’w lwybr.

Tarodd Ryan Brobbel y trawst gyda chic rydd dda wedi hynny ond dim ond un gôl a oedd ynddi ar yr egwyl er gwaethaf goruchafiaeth amlwg y deiliaid.

Roedd hi’n gêm agosach ar ddechrau’r ail hanner ond roedd golau dydd rhwng y ddau dîm gydag ugain munud I fynd diolch i gôl unigol wych Jamie Mullan.

Agorodd y llifddorau wedi hynny ac roedd Mullan yng nghanol popeth. Croesodd yr asgellwr i Edwards i benio’r drydedd ddeuddeg munud o’r diwedd, cyn creu’r bedwaredd i Jon Routledge yn y munud olaf.

Buddugoliaeth gyfforddus i dîm Scott Ruscoe yn y diwedd felly ac wythfed pencampwriaeth yn olynol i’r Seintiau.

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Hugh, Cooper, Watkins, McLaggon, Greening, Touray (Gerrard 83’), Hood, Abbruzzese (Press 79’), Green, Fray

Cardiau Melyn: Hood 39’, Abbruzzese 50’

 

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Marriott, Holland, Routledge, Brobbel (Cieslewicz 79’), Draper (Ebbe 76’), Redmond, Hudson, Mullan, Lewis Edwards (Byrne 83’)

Goliau: Draper 7’, Mullan 71’, Edwards 78’, Routledge 90’

.

Torf: 545