Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant gwerth £2.3m er mwyn sicrhau bod cynnyrch misglwyf ar gael yn rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar unwaith.
Fe fydd dros 141,000 o ferched yn elwa o’r cynllun, ac mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y bydd yn rhoi terfyn ar “dlodi misglwyf”.
Bydd yr arian ar gael drwy law’r awdurdodau lleol, a bydd ysgolion yn cael eu hannog i gefnogi cynnyrch sy’n llesol i’r amgylchedd.
Mae ymchwil yn awgrymu bod 15% o ferched gwledydd Prydain yn ei chael yn anodd fforddio cynnyrch misglwyf, fod rhaid i 14% fenthyg cynnyrch gan eu ffrindiau, a bod 20% wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio cynnyrch o safon is oherwydd y gost.
Mae’r cynllun yn dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd eisoes yn ariannu cynnyrch mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ers y llynedd.
Mae disgwyl i gynllun tebyg gael ei lansio yn Lloegr ym mis Medi.
Ymrwymiad
“Rydym wedi ymroi i gefnogi urddas misglwyf a chynnal ein buddsoddiad mewn ysgolion er mwyn helpu i roi terfyn ar dlodi misglwyf,” meddai Mark Drakeford.
“Ym mis Mawrth, fe wnaethon ni ddatgan y byddai cynnyrch misglwyf ar gael i bob merch yn ysbytai Cymru – jyst bod yr un peth yn digwydd ar draws ein hysgolion.
“Mae’n hanfodol fod cynnyrch misglwyf digonol, ynghyd â chyfleusterau da, ar gael i bob merch sy’n cael addysg fel y gallan nhw reoli eu misglwyf yn hyderus, a dileu rhwystr diangen i’w haddysg.”