Mae Ruth Jones, olynydd yr Aelod Seneddol Paul Flynn, wedi talu teyrnged iddo wrth agor cynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno.

Bu farw Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd ym mis Chwefror ac ers dechrau’r mis hwn, fe fu Ruth Jones yn cynrychioli’r etholaeth.

Wrth annerch aelodau Llafur yng nghanolfan Venue Cymru, dywedodd bod olynu’r ffigwr yn “fraint”.

“Mae sawl un wedi talu teyrnged iddo dros y ddeufis diwethaf, ac mae un dywediad wedi glynu wrth fy nghof – ‘Mae pawb yn ’nabod rhywun a gafodd ei helpu gan Paul Flynn,” meddai.

“Gwnaeth y geiriau yna fy ysbrydoli yn ystod yr ymgyrch. Wedi’r cyfan, dyna pam yr ydym ni yma – i wneud ein gorau glas i helpu eraill.

“Roedd Paul yn aelod balch o’i blaid. Roedd yn annibynnol, ond heb os nac oni bai roedd yn aelod o Lafur. Mae’n fraint i mi ei olynu.

“Rydym yn gweld ei eisiau, ac rydym yn diolch iddo am ei wasanaeth.”