“Mae materion allweddol yn cael eu hanwybyddu oherwydd Brexit, ac mae pobol wedi blino â hynny” fydd neges Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llandudno heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

“Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dymchwel,” bydd yn dweud wrth draddodi ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru.

“Mae troseddau treisgar yn cynyddu, a disgwyliad oes yn disgyn. Mae ein hinsawdd yn marw. Ond does dim ymdrech i fynd i’r afael â’r materion yma.

“Mae’r [Prif Weinidog] Theresa May wedi gwario £4bn ar baratoadau Brexit ‘heb ddêl’. Ond mae cyllideb Cymru wedi cael ei chwtogi gan filiynau o bunnoedd.”

“Hollt go iawn”

Wrth gyflwyno’i araith, mi fydd hefyd yn dadlau mai hollt rhwng y cyfoethog a’r tlawd yw’r “hollt go iawn” yn ein cymdeithas – nid hollt Brexit.

“Dydyn ni ddim yn credu mai’r hollt rhwng pobol a bleidleisiodd o blaid ac yn erbyn [Brexit] yw’r hollt go iawn.

“Rydym ni’n credu mai’r hollt rhwng y mwyafrif a’r lleiafrif yw’r hollt go iawn. Y mwyafrif sy’n gweithio, creu cyfoeth a thalu trethi.

“Y lleiafrif sy’n creu’r rheolau, cymryd yr elw, ac yn osgoi talu trethi.”