Mae “enw da” y Deyrnas Unedig wedi cael ei “ddifrodi” gan Brexit a’r Ceidwadwyr, yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

Dyna fydd e’n ei ddweud wrth annerch cynhadledd ei blaid yn Llandudno heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

Er i’r Undeb Ewropeaidd gytuno i ohirio Brexit ymhellach yr wythnos ddiwethaf, mae’r arweinydd yn pryderu bod Brexit heb fargen yn fygythiad o hyd.

Ac wrth annerch aelodau’r Blaid Lafur bydd yn rhybuddio bod y broses eisoes wedi gwneud niwed i wledydd Prydain.

“Difrodi enw da”

“Mae’r trafodaethau gyda’n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd wedi difrodi enw da’r Deyrnas Unedig,” bydd yn dweud.

“Ac er gwaetha’ cytundeb yr wythnos diwethaf, dyw’r bygythiad o adael yr Undeb heb ddêl ddim wedi cael ei waredu.

“Mae’r risgiau o adael heb gytundeb  yn parhau yn uwch yng Nghymru. Ac mae’r risgiau yn waeth oherwydd bod degawd o gyni ariannol wedi niweidio ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau.”

“Gobaith”

Bydd hefyd yn galw ar y gynhadledd i fod yn “ddewr”, ac yn galw ar bobol Cymru i “edrych i’r dyfodol â gobaith”.

“Gallan nhw wneud hynny gan wybod bod yna Lywodraeth Llafur yng Nghymru sydd ar eu hochr nhw,” bydd yn dweud wrth y gynhadledd.

“Mae ganddyn nhw Lywodraeth Llafur sydd yn ymdrechu pob awr o bob dydd i edrych ar ôl Cymru, ac i edrych ar eu holau nhw.”