Mi fuasai’n “gwbwl annealladwy” pe na bai Plaid Cymru yn “poeni’n fawr” am sedd Hywel Williams, yr Aelod Seneddol.

Daw sylw’r Athro Richard Wyn Jones wedi i’r blaid anfon llythyr at aelodau yr wythnos hon yn erfyn arnyn nhw i wneud cais am bleidlais bost.

Enillodd Hywel Williams sedd Arfon i Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol  2017, gan ennill 11,519 o bleidleisiau ond mwyafrif o ddim ond 92.

Gan dynnu sylw at y ffaith y gallai etholiad gael ei gynnal eleni, mae Richard Wyn Jones yn nodi y dylai’r blaid fod ar bigau’r drain.

“Mi fasai’n gwbwl annealladwy os na fuasai Plaid Cymru yn poeni’n fawr am y sedd,” meddai wrth golwg360. “Roedden nhw bron iawn â’i cholli y tro diwethaf.

“A doedd hi ddim yn sedd amlwg i Lafur dargedu y tro diwethaf. Roedd Llafur ar y pryd yn amddiffyn seddi yng ngogledd Cymru, yn hytrach nag ymosod a cheisio ennill tir.

“Y tro yma, bydd [Llafur] yn hyderus iawn o ddal eu gafael yn y gogledd ddwyrain, ac yn targedu seddi sydd ymhellach i’r gorllewin.

“Dw i’n dychmygu y bydd [Arfon] yn sedd darged amlwg iawn mewn unrhyw etholiad. Ac mae’r etholiad yn bosibiliad real.”

Y llythyr

Mae llythyr wedi ei anfon at aelodau Plaid Cymru yn Arfon yn nodi bod yna “bosibiliad cryf y bydd yna etholiad cyffredinol eleni”.

“Nid oes angen i ni ddweud wrthych am bwysigrwydd etholiadau o’r fath nac mai mwyafrif o 92 yn unig oedd gan Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2017,” meddai’r Blaid yn y llythyr.

Mae’r llythyr wedi cael ei arwyddo gan Hywel Williams ac Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllïan, ac yn erfyn ar bobol i “ystyried gwneud cais am bleidlais bost”.

Mae hefyd yn egluro bod “pobl sydd â phleidlais bost yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na phobl sy’n pleidleisio ar y diwrnod ei hun.

“Rydym yn sicr mai’r ffaith bod cynifer o’n cefnogwyr wedi pleidleisio drwy’r post oedd un o’r prif resymau pam llwyddwyd i ddal Arfon yn 2017.”

Anarferol?

Mae Richard Wyn Jones yn egluro nad yw’n anarferol i bleidiau annog eu haelodau i bleidleisio trwy’r post.

“Mae canran uwch ac uwch o bobol yn pleidleisio trwy’r post,” meddai.

“Ac mae pleidiau yn licio fo achos dydyn nhw ddim yn dibynnu ar ddata ar y diwrnod ynglŷn ag a ydy pobol wedi pleidleisio neu beidio.

“Gorau po fwyaf – o safbwynt y pleidiau – o’u cefnogwyr nhw, a’u selogion, nhw sy’n pleidleisio trwy’r post. Mae’n haws gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi pleidleisio.”