Bydd 44 o bobol ifanc yn ymgymryd â her y Tri Chopa y penwythnos hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’r cyfan wedi ei drefnu gan fudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, ac yn her i’r aelodau gan gadeirydd a llysgenhadon y sir.

Y nod yw dringo tri o gopaon uchaf Cymru, sef yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-fan, mewn llai na 24 awr, gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr elusen DPJ Foundation.

Cafodd yr elusen honno ei sefydlu er cof am gontractwr amaethyddol ifanc o Sir Benfro, Daniel Picton-Jones, a gollodd ei fywyd o ganlyniad i iechyd meddwl.

“Yn Sir Gaerfyrddin, rydyn ni’n sylweddoli bod angen cefnogaeth ar bobol sy’n dioddef o iechyd meddwl,” meddai Carys Thomas, Cadeirydd CFfI Sir Gâr, wrth golwg360.

“Mae’r elusen yn cynnig llinell gymorth a chwnsela, ac rydyn ni’n teimlo’n gryf iawn dros yr achos.

“Mae’n agos iawn at ein calonnau ni ac mae’n bwysig cael y gefnogaeth i ffermwyr a gwragedd a phlant cefn gwlad Cymru.”

⛰️ HER Y CADEIRYDD A'R LLYSGENHADON ⛰️13/04/19AMDANI – HER 3 CHOPA CYMRU – AWAY WE GO NODDWCH ? 40 O GERDDWYR ?? 1 ELUSEN PWYSIG ?

Posted by Carms Yfc-Cffi Caerfyrddin on Thursday, 4 April 2019