Mae Paul James, 61, oedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, wedi marw.

Cafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda dau gar wrth iddo seiclo ar yr A487 rhwng Waun Fawr a Bow Street, ger Aberystwyth ddoe (Dydd Iau, Ebrill 11).

Fe ddigwyddodd am tua 5.30 yr hwyr a bu farw ar ôl iddo ddioddef o anafiadau, meddai Heddlu Dyfed Powys.

“Torcalonnus”

“Mae’n dorcalonnus clywed am golled fy ffrind Paul James – colled enfawr i gymaint o bobol… ond yn enwedig ei deulu,” meddai Elin Jones, AC Ceredigion, ar Facebook.

“Daeth ei deulu yn gyntaf, bob tro, wedyn ei drigolion, wedyn, ddim yn bell y tu ôl, pawb arall. Fe

wasanaethodd cymuned Llanbadarn gydag angerdd a diwydrwydd, ac roedd o’n dryw i’w holl achosion.”

“Colled fawr iawn”

“Mae’n golled fawr iawn iawn, ac mae ei deulu am ei fethu yn fawr iawn,” meddai Paul Hinge, Cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ward gyfagos Tirymynach.

“Bu’n gwasanaethu yn y fyddin am flynyddoedd, ac fe fydd llawer iawn o bobol yn ei fethu am byth.”

Mae’r heddlu yn apelio am dystion ac mae archwiliad i amgylchiadau’r gwrthdrawiad wedi cael ei lansio.

Yn benodol maen nhw eisiau siarad gydag unrhyw un sydd wedi gweld beiciwr yn teithio tuag at Aberystwyth, neu Ford Galaxy a Vauxhall Vectra glas ar adeg y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd efo gwybodaeth gysylltu ar 07811 311 908 gan ddyfynu 319.