Bu dathliadau mawr yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, neithiwr (nos Iau, Ebrill 11) wrth i enillwyr Gwobrau Gwerin Cymru 2019 gael eu cyhoeddi.

Mae’r gwobrau yn dathlu perfformwyr talentog sin cerddoriaeth werin a thraddodiadol Cymru sydd wedi creu argraff gartref ac mewn gwyliau ar draws Gwledydd Prydain ac Ewrop.

Bu perfformiadau neithiwr gan Gwilym Bowen Rhys, The Trials of Cato, VRï a Calan o flaen torf o 350 o bobol.

Roedd 10 artist yn fuddugol neithiwr mewn 11 categori gwahanol.

Fe gawson nhw eu dewis gan banel enwebu gyda chymysgedd o gerddorion hen ac ifanc, trefnwyr clybiau a gwylia newyddiadurwyr, hyrwyddwyr a selogion y sin cerddoriaeth gwerin.

Enillwyr

Alaw – Trac offerynnol orau – ‘Dawns Soïg/ Dawns y Gŵr Marw’

Martyn Joseph – Cân Saesneg Wreiddiol Orau – ‘Here Come the Young’

Gwilym Bowen Rhys – Artist Unigol Orau

VRï – Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau – ‘Ffoles Llantrisant’

Pendevig – Perfformiad Byw Gorau

Lleuwen – Cân Gymraeg Wreiddiol Orau – ‘Bendigeidfran’

The Trials of Cato – Band Gorau Sy’n Dechrau Dod i’r Amlwg

Calan – Grŵp Gorau

VRï  – Albwm Gorau – Tŷ ein Tadau

Gwobrau Gwerin Cymru

Trac – sef datblygwyr traddodiadau gwerin yng Nghymru, ynghyd a BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a cherddorion gwerin Cymraeg adnabyddus fel Huw Williams a Stephen Rees sydd wedi sefydlu’r gwobrau.

Fe fydd y noson yn cael ei ddarlledu ar raglen Awr Werin Lisa ar BBC Radio Cymru ac ar raglen Celtic Heartbeat Frank Hennessey ar BBC Radio Wales.