Mae Heddlu Dyfed Powys a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn ymchwilio i “nifer o ddigwyddiadau honedig” o hiliaeth yn ystod rownd gynderfynol Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Drenewydd fis diwethaf (Dydd Sadwrn, Mawrth 16).

Yn ystod y gêm daeth honiadau gan ddau o chwaraewyr STM Sports, o Lanrhymni yng Nghaerdydd, bod cefnogwyr Cefn Albion, o Wrecsam, wedi gweiddi sloganau hiliol atyn nhw.

Fe anfonodd Heddlu Dyfed Powys ragor o swyddogion i’r gêm yn y Drenewydd, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Fe fydd rownd derfynol Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhwng Pontardawe a Chefn Albion yn parhau i gael ei chynnal ddydd Sadwrn (Ebrill 13) fel y bwriadwyd, meddai CBDC mewn datganiad.