Mae dyn, 31, wedi marw yn dilyn damwain angheuol yn ardal Ffostrasol, Ceredigion, neithiwr (nos Fercher, Ebrill 10).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 10yh yn dilyn adroddiad o ddamwain a oedd yn cynnwys un cerbyd, sef Ford Ranger glas, ar ffordd yr A486 ger Clwb Pêl-droed Ffostrasol.

Roedd y cerbyd yn teithio o gyfeiriad Synod Inn.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu a’r Crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.