Mae nofel newydd Patrick McGuinness, Throw Me to the Wolves, ar yr olwg gyntaf yn adrodd hanes llofruddiaeth mewn ysgol.

Mae cyn-ddisgybl o dditectif yn dychwelyd i ymchwilio i’r digwyddiad.

Ond mae’r gyfrol hefyd yn ymateb Patrick McGuinness i gyfryngau a system ysgol fonedd Lloegr – system y cafodd ef ei hun ei magu o’i mewn.

Dicter

“Mae’r llyfr yn ymwneud â gwleidyddiaeth a llymder y cyfryngau Prydeinig, a hefyd am system ysgolion preswyl yn Lloegr, a brofais i fel plentyn pan ddes i i wledydd Prydain yn 9 oed, heb bron iawn ddim Saesneg,” meddai Patrick McGuinnes wrth golwg360.

“Mae Throw me to the Wolves yn llyfr blin, mae’n llyfr o ddicter.”

Yn ôl Patrick McGuinnes, mae’r llyfr yn ceisio adlewyrchu sut y mae Cymru yn ceisio goroesi yng nghysgod “sociopaths” sydd wedi dod o ysgolion preswyl Lloegr. 

Mae hi hefyd yn ceisio cyfle “sut oedd hi i gael enw Gwyddeleg a chefndir Gwyddeleg yn y 1980au – lleoliad plentyndod y nofel, ar adeg ble’r oedd teimladau gwrth-Wyddelig ac ymgyrchoedd bomio’r IRA.”

Mae lle i gredu bod cyfeiriadau at rhai cymeriadau o wleidyddiaeth Cymru ynddi hefyd, “ond gan fy mod i’n hysgrifennydd cytbwys, mae un yn dda, ac mae un yn… wel, eithaf drwg,” meddai Patrick McGuinnes.

Cefndir

Mae Patrick McGuinnes, yn Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn byw yng Nghaernarfon.

Fe’i ganwyd yn Tiwnisia yn 1968 i fam o wlad Belg a thad o gefndir Gwyddelig, a’i fagu yng ngwlad Belg cyn treulio cyfnodau yn Feneswela, Iran, Romania a gwledydd Prydain.

Fe enillodd wobr Wales Book of The Year am ei lyfr The Last Hundred Days, oedd wedi’i seilio ar chwyldro Romania yn yr 1990au.