Fe fydd ymgyrchwyr sy’n ceisio achub addysg Gymraeg yng ngogledd Pontypridd yn gorymdeithio o Ynysybwl i Rydyfelin ddydd Sadwrn (Ebrill 13).

Maen nhw’n gofidio am dorri gwasanaethau yng ngogledd y dref, ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf benderfynu cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn, ac adeiladu ysgol newydd ar safle Heol-y-Celyn.

Maen nhw’n dweud y bydd y newidiadau’n effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned.

Bydd gorymdaith Taith yr Iaith yn tynnu sylw at y pellter y bydd rhaid i blant mor ifanc â thair oed orfod teithio ar fws – hyd at chwe milltir rhwng Ynysybwl, Glyncoch a Choedycwm.

Bydd yr orymdaith brotest Taith yr Iaith yn dechrau am 10yb o Sgwâr Robertstown yn Ynysybwl ac yn teithio drwy gymunedau Glyncoch, Coed y Cwm, Cilfynydd, Trallwn a thref Pontypridd i gyrraedd pen y daith yn Heol y Celyn yn Rhydyfelin.

Mae naw o ysgolion Saesneg ar hyd lwybr yr orymdaith, a’r rheiny o fewn pellter cerdded i’r disgyblion yn y cymunedau hynny.

Gall y daith honno gymryd dros hanner awr ar adegau digon cyffredin o ran traffig.

Pryderon

Yn ôl ymgyrchwyr, fe fydd y pellter teithio a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gwneud yn anodd i’r plant fynychu clybiau brecwast ac ar ôl ysgol, ac i rieni gyrraedd eu plant mewn argyfwng.

Er bod yr ymgyrchwyr yn croesawu’r buddsoddiad yn adeilad newydd ysgol Gymraeg Pont Sion Norton, maen nhw’n teimlo bod gwendidau yn y cynlluniau presennol, a bod diffyg cynllunio wedi bod.

“Fel rhieni rydym yn teimlo fod ein hymatebion i’r broses ymgynghori wedi eu hanwybyddu ac na roddwyd gwrandawiad teg i’n anerchiadau yn ystod y cyfarfodydd Cabinet a Chyfarfod y Pwyllgor Scriwtineiddio,” meddai Katie Hadley, sy’n rhiant ac yn un o drefnwyr yr orymdaith.

“Mae’r Cyngor yn dangos amharch llwyr i’r effaith a gaiff y pellter y mae gofyn ei deithio er mwyn cyrraedd yr ysgol newydd ar les y plant ac ar allu y rheini i ymuno a bod yn rhan o gymuned yr ysgol newydd.

“Dylai Addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb – nid felly i’n plant ni os aiff y cynlluniau yma rhagddynt.”