Mae Prifysgol Bangor yn dileu Cemeg fel pwnc gradd – a hynny, meddai’r coleg, yn dilyn ymgynghoriad.

Mae’r brifysgol yn dweud eu bod yn “wynebu tirlun ariannol heriol”, sy’n cynnwys cystadleuaeth o dramor a “chwymp demograffig sylweddol ym mhoblogaeth 18-20 oed y Deyrnas Unedig”.

Cafodd nifer o opsiynau eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad rhwng Rhagfyr 2018 a mis Chwefror y llynedd.

Mae’r brifysgol yn dweud y bu cwymp yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio Cemeg, gyda dim ond 23 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi’u cofrestru – i lawr o 61 yn 2015-16.

“Yn dilyn yr ymgynghoriad ac ystyriaeth ofalus o’r ymatebion a dderbyniwyd, mae Prifysgol Bangor wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i gynnig graddau Cemeg.

“Golyga hyn na fydd unrhyw fyfyrwyr newydd yn cael eu cofrestru ar raglenni Cemeg ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.

Ond maen nhw’n dweud na fydd myfyrwyr sydd eisoes yn dilyn cwrs gradd yn cael eu heffeithio.

Mae’r ymgynghoriad hefyd wedi arwain at newidiadau i staff gweinyddol a darlithwyr Gwyddorau Meddygol, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.

Mae’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y newidiadau wedi cael gwybod.

‘Gweithredoedd hanfodol’

“Mae’r rhain i gyd wedi bod yn benderfyniadau anodd iawn i’r Brifysgol ond mae cyflawni’r gweithredoedd yma rŵan er mwyn ateb yr heriau ariannol hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd gan y Brifysgol ddyfodol llwyddiannus a chynaliadwy,” meddai’r Athro Graham Upton, Is-ganghellor dros dro y brifysgol.

“Mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i gefnogi’r staff a’r myfyrwyr hynny sy’n cael eu heffeithio a hoffwn ailadrodd y bydd modd i fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau.

“Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweithio gyda chyrff cyllido allanol, partneriaid project a chwmnïau i gwblhau projectau ymchwil ac ysgoloriaethau.

“Ble mae’n bosib, byddwn hefyd yn parhau i gefnogi cwmniau lleol gyda’n arbenigeddau mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys Cemeg.”