Mae Maer Llanrwst yn herio trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol i gadarnhau unwaith ac am byth mai yn y dref honno y byddan nhw’n cynnal Maes y brifwyl eleni – neu ganslo’r holl ddigwyddiad.

Mae yna amheuon mawr yn y dref ac yn yr ardal ehangach ers i’r caeau sydd wedi’u dewis i fod yn gartref i’r brifwyl ddod dan ddŵr yn dilyn stormydd diwedd mis Mawrth eleni.

Fe ddaeth hi’n glir bryd hynny fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael problem i gael yswiriant ar gyfer y tir sy’n rhan o orlifdir afon Conwy, ac efallai y byddai’n rhaid iddyn nhw ystyried opsiynau “edrych y tu hwnt” i’r safle presennol.

At hynny, mae rhai wedi awgrymu y dylai’r brifwyl – gyda llai na phedwar mis tan wythnos gyntaf Awst – ystyried defnyddio safle prifwyl 1995 ar gyrion Abergele. Mae hynny wedi gwylltio pobol yn ardal Llanrwst.

Er i golwg360 wneud cais i holi Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses ynglŷn â’r sefyllfa, dyw’r , doedden nhw ddim am wneud sylw pellach ar y mater.

Mae disgwyl i’r brifwyl ymweld â Sir Conwy – ardal eang sy’n mynd o Ysbyty Ifan wrth fynyddoedd y Mignaint hyd at Landudno ar lan y môr, rhwng Awst 3 a 10.

“O’r badell ffrio i’r tân”

Yn ôl y Cynghorydd Ian Jenkins, Maer Llanrwst, mae popeth “i fyny yn yr awyr” ar hyn o bryd, gyda busnesau lleol a sefydliadau eraill – sy’n bwriadu cynnal digwyddiadau ymylol yn y dref – yn dal i aros am gadarnhad am safle’r brifwyl.

Mae’n dweud nad oes “unlle yn well” na’r safle presennol – ar fin y ffordd o Lanrwst i gyfeiriad Betws-y-coed – a bod trigolion Llanrwst yn gadarn yn erbyn y syniad o symud y Maes i ardal arall.

“Mae ganddyn nhw ond dau ddewis yn fy marn i, ei chynnal hi yn Llanrwst neu ei chanslo hi,” meddai wrth golwg360. “Ond dw i ddim yn gweld eu bod nhw am ei chanslo hi…

“Os ydan nhw’n symud yr Eisteddfod o Lanrwst fe fyddan nhw’n mynd o’r badell ffrio i’r tân.

“Mae yna bobol sy’n barod i ymddiriedoli [sic] yn y gwaith stiwardio ac yn y blaen, i gyd ar bigau’r drain ar hyn o bryd… Os ydi’r Eisteddfod ddim yn dod i Lanrwst, fyddan nhw ddim ar gael.”

Wrth ddadlau yn erbyn symud y Maes, mae nifer yn tynnu sylw at y ffaith fod Llanrwst a’r pentrefi Cymraeg o’i chwmpas eisoes wedi cyrraedd eu targedau ariannol, tra bod Abergele a’r ardaloedd mwy Seisnig eu hiaith tua’r glannau yn Sir Conwy, yn cael eu gweld fel eisteddfodwyr llai brwd wrth godi arian.

Y Maes presennol “yn berffaith saff”

Er i’r Maes presennol gael ei effeithio gan lifogydd yn ddiweddar, mae Ian Jenkins yn mynnu mai digwyddiad “unwaith mewn can mlynedd” oedd hynny.

“Does yna’r un wedi bod cyn waethed na’r [llifogydd] a gafwyd pythefnos yn ôl,” meddai. “Mae’r cae yna yn berffaith addas… mae o’n hollol dderbyniol ynghanol yr ha’.

“Biwrocratiaeth sy’n stopio’r peth rhag digwydd, dw i’n meddwl, dim y lleoliad…

“Mae’r busnes llifogydd yma wedi cael y bobol yswiriant i feddwl ‘oh my god’, a phethau felly sydd wedi creu’r ‘o! be wna i?’ sefyllfa yma.”