Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gymydog mewn maes carafanau yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Simon Clark, 54, ei drywanu i farwolaeth gan Steven Baxter ym Mharc Carafannau Grove, Pentywyn, lle’r oedd y ddau yn byw, ar Fedi 27 y llynedd.

Roedd Steven Baxter, 52 oed, wedi pledio’n ddieuog o lofruddiaeth ond fe’i cafwyd yn euog gan y rheithgor.

Cafodd Simon Clark ei drywanu yn ei frest a chafwyd hyd i’w gorff y diwrnod canlynol. Cafwyd hyd i Steven Baxter yn cuddio ar draeth yn Sir Gaerfyrddin ar Hydref 27, bron i fis ers y digwyddiad.

Roedd Jeffrey Ward, 40, oedd hefyd yn byw yn y maes carafanau wedi’i gyhuddo o lofruddio ond fe’i cafwyd yn ddieuog gan y rheithgor.

Fe fydd Steven Baxter yn cael ei ddedfrydu yfory (dydd Mawrth, Ebrill 9).

Roedd Julie Harris, 46, o Glydach hefyd wedi pledio’n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac fe fydd hi’n cael ei dedfrydu yfory.