Mae cynghorydd o Sir Ddinbych wedi ei wahardd o’r Blaid Lafur yn dilyn sylw a wnaeth ynghylch teithwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl adroddiadau, roedd y sylw a gafodd ei gyhoeddi ar Facebook gan gyfrif y Cynghorydd Bob Murray, sy’n cynrychioli De Orllewin Prestatyn, yn nodi bod gan “Hitler y syniad cywir” ynglŷn â theithwyr.

Mae’n ymddangos bod y sylw, a oedd ynghlwm â neges ynghylch teithwyr a gafodd ei chyhoeddi gan Paul Penlington, un arall o gynghorwyr Prestatyn, bellach wedi ei ddileu.

Mae Bob Murray wedi dweud nad oes ganddo sylw i wneud ar y mater.

Dywed y Blaid Lafur fod Bob Murray wedi ei wahardd o’r Blaid Lafur tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwyn ynghylch y mater, ac y byddan nhw’n ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf.

“Ymchwiliad llawn”

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, maen nhw’n delio â “chwynion ynghylch ieithwedd fygythiol neu ragfarnllyd yn hynod ddifrifol”.

“Byddwn yn ymchwilio’n llawn i’r mater yn unol â’n rheolau ac fe fydd unrhyw gamau disgyblu priodol yn cael eu cymryd,” meddai llefarydd.

“Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar achosion unigol.”

Dywed yr Aelod Seneddol Llafur, Chris Ruane, sy’n cynrychioli etholaeth Dyffryn Clwyd, ei fod wedi ei “ffieiddio” tuag at sylw Bob Murray.

“Mae’r math yma o ieithwedd yn hollol annerbyniol ac yn mynd yn groes i werthoedd y Blaid Lafur a’n gwerthoedd fel rhan o gymdeithas oddefgar,” meddai.

“Dw i wedi adrodd hyn i’r Blaid Lafur ac fe fydda i’n sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.”