Mae’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr mewn “ychydig o drwbwl” yng Nghymru, yn ôl arolwg barn newydd.

Dyma’r un diweddaraf gan YouGov ers diwedd mis Chwefror, gyda 1,025 o bobol yng Nghymru wedi cael eu holi rhwng Ebrill 2 a 5.

Daw wrth i’r ansicrwydd ynghylch Brexit barhau, gyda’r Prif Weinidog, Theresa May, yn methu â chael Aelodau Seneddol i gymeradwyo ei chytundeb.

Mae’r arolwg yn dangos dirywiad yng nghefnogaeth y ddwy brif blaid – Llafur a’r Ceidwadwyr – wrth i bleidiau llai a newydd – Change UK a’r Blaid Brexit – ennill tir sylweddol.

San Steffan – disgwyl i Lafur colli tir

Mae’r canlyniadau ar gyfer San Steffan yn awgrymu y gall pum sedd newid dwylo mewn etholiad cyffredinol – gyda phob un ohonyn nhw’n golledion i’r Blaid Lafur.

Mae disgwyl i seddi Gogledd Caerdydd, Dyffryn Clwyd, Gŵyr a Wrecsam fynd i ddwylo’r Ceidwadwyr, tra bo gan Blaid Cymru gyfle i gipio Ynys Môn.

  • Llafur: 33% (-2) – 23 sedd;
  • Ceidwadwyr: 26% (-3) – 12 sedd;
  • Plaid Cymru: 15% (+1) – 5 sedd;
  • Change UK: 9% (+9) – dim sedd;
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (+1) – dim sedd;
  • Plaid Brexit: 4% (+4) – dim sedd;
  • UKIP: 3% (-3) – dim sedd;
  • Eraill: 3% (-5) – dim sedd.

Y Cynulliad – pedwar sedd i Blaid Brexit?

Yr un fydd y stori i Lafur Cymru yn y Cynulliad, gyda disgwyl i blaid Mark Drakeford gael eu canlyniad gwaethaf erioed gyda dim ond 23 sedd.

Fe all Plaid Cymru gael eu hail ganlyniad gorau erioed (16), tra bo disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig gael eu swm uchaf erioed o seddi (15).

Ond a UKIP yn wynebu colli’r rhan fwyaf o’i seddi, mae gan Blaid Brexit siawns dda i ennill pedair sedd ranbarthol.

  • Llafur Cymru: 23 (21 etholaethol; 2 rhanbarthol);
  • Plaid Cymru: 16 (10 etholaethol; 6 rhanbarthol);
  • Ceidwadwyr Cymreig: 15 (8 etholaethol; 7 rhanbarthol);
  • Plaid Brexit: 4 (4 rhanbarthol);
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (1 etholaethol);
  • UKIP: 1 (1 rhanbarthol).

“Mae eu methiannau yn colli cefnogaeth iddyn nhw”

“Mae’r arolwg hwn yn rhoi darlun ehangach i sefyllfa gwleidyddiaeth bleidiol Cymru ar hyn o bryd ac, yn wir, ledled gwledydd Prydain,” meddai’r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“A beth mae’r arolwg yn ei ddweud, yn fwy na dim, yw bod y ddwy brif blaid draddodiadol mewn ychydig o drwbl.

“Mae eu methiannau yn colli cefnogaeth iddyn nhw. Tra bo pleidleiswyr Cymru ddim wedi ymgasglu o gwmpas un dewis penodol arall, mae gan bleidiau eraill y potensial uchel i ennill cefnogaeth.

“Gyda disgwyl i’r Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol wynebu mwy o drwbl, ddylen ni ddim cymryd yn ganiataol bod eu goruchafiaeth nhw o wleidyddiaeth am barhau.”