Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanidloes ym Mhowys yn oriau mân y bore.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar ffordd y B4569 am 3.30yb ddydd Llun, Ebrill 8 yn ymwneud â char Ford Fiesta.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Mae’r ffordd yn parhau ynghau tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r gwrthdrawiad.