Mae’r heddlu’n apelio yn dilyn ymosodiad ar ddynes yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd yn ardal Glan yr Afon am oddeutu 5.30 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 6).

Mae’r ddynes yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.