Fe fydd Oriel Q yn Arberth yn Sir Benfro yn cau ei drysau ar ôl methu ag ennill grant gan Gyngor y Celfyddydau.

Mae’n golygu bod dyfodol yr oriel sydd wedi bod ar agor yn Queens Hall yn ne Sir Benfro ers ugain mlynedd yn y fantol.

Yn dilyn y newyddion fod y curadur Lynne Crompton a’i staff wedi cael eu diswyddo, mae gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i redeg yr oriel.

“Mae hi’n drasiedi i Sir Benfro a gorllewin Cymru bod y nawdd wedi cael ei dynnu oddi ar Oriel Q Arberth,” meddai Bernard Mitchell, a oedd yn arddangos ei ffotograffau o’i lyfr, Pieces of a Jigsaw: Portraits of Artists and Writers of Wales yn yr oriel fis diwethaf.