Fe fydd bron i 30 o gwmnïau bwyd a diod o Gymru’n cael arddangos eu cynnyrch yng nghanolfan NEC yn Birmingham ddechrau’r wythnos nesaf.

Mae Sioe Siopau Fferm a Deli 2019 yn cael ei chynnal o ddydd Llun i ddydd Mercher (Ebrill 8-10).

Yn rhan o’r digwyddiad, fe fydd gwobrau’n cydnabod y goreuon o feysydd siopau fferm, delicatessen, bwytai, cigyddion, siopau bara, neuaddau bwyd a chanolfannau garddio.

Roedd dros 6,000 o gwsmeriaid yn y sioe y llynedd.

Cywain, prosiect Menter a Busnes, fydd yn gyfrifol am gydlynu’r cynnyrch Cymreig, a hwnnw’n cefnogi datblygiad busnesau sy’n hybu cynnyrch Cymreig.

“Rydym ni’n falch iawn o allu mynd â chymaint o fusnesau bwyd a diod i’r Sioe Farm Shop & Deli eleni,” meddai Dewi Evans, Rheolwr Prosiect Cywain.

“Mae’n gyfle gwych i’r holl gwmnïau – boed yn gwmnïau sydd wedi sefydlu ers amser neu’n gwmnïau newydd – i arddangos eu cynnyrch o flaen cynulleidfa mor eang a dylanwadol.”