Mae’r heddlu yn Llanelli wedi lansio ymgyrch i atal gwerthwyr cyffuriau rhag manteisio ar bobol ddiniwed drwy ddefnyddio eu cartrefi fel canolfannau ar gyfer eu troseddau.

Mae ymchwil yn ddiweddar yn dangos bob gangiau o’r tu allan i’r dref yn targedu trigolion lleol sy’n ddigon diniwed o ganlyniad i fod yn gaeth i sylweddau neu sydd â salwch meddwl, ac yn defnyddio eu cartrefi i werthu cyffuriau.

Cafodd y cynllun ei lansio yn Stryd Morfa, lle gwnaeth yr heddlu gyfarfod â thrigolion lleol a gofyn iddyn nhw adrodd am unrhyw ddigwyddiadau amheus yn y gymuned.

“Diben y cynllun yw herio cyflenwyr cyffuriau sydd wedi dod o rywle arall ac wedi ymsefydlu yn Llanelli,” meddai’r Uwch Arolygydd Jolene Mann o Heddlu Dyfed-Powys.

“Rydym yn ymweld ag ardaloedd lle mae’n fwy tebygol fod y fath weithgarwch yn digwydd, ac yn gwneud trigolion yn ymwybodol fel y gallan nhw gadw llygad i ni.

“Ein bwriad yw cefnogi ac amddiffyn y rhai mwyaf diniwed yn ein cymunedau drwy adnabod y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf, a’u hanfon i’r lle mwyaf priodol i dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

“Rydym hefyd am adnabod cyfeiriadau posib allai gael eu targedu gan gyflenwyr cyffuriau, a phwy sy’n debygol o ddefnyddio’r dull hwn.”