Bydd Aberystwyth yn llawn dop o gorau yn ganu dros y penwythnos wrth i rownd derfynol Côr Cymru a chystadleuaeth Côr Cymru Cynradd gael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Nos yfory bydd y gystadleuaeth ar gyfer y corau cynradd – gyda phedair ysgol gynradd yn mynd benben â’i gilydd.
Y noson wedyn fe fydd pum côr yn cystadlu yn rownd derfynol Côr Cymru, gyda’r enillydd yn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir of the Year, a fydd yn cael ei chynnal yn Gothenburg, Sweden, ym mis Awst.
Heledd Cynwal a Morgan Jones fydd yn cyflwyno’r corau mewn dwy raglen fyw ar S4C.
Côr Cymru Cynradd
- Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo;
- Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn Porth;
- Ysgol Gymraeg Llangennech;
- Ysgol Pen Barras, Rhuthun
Côr Cymru
- Ysgol Gerdd Ceredigion;
- John’s Boys o Rosllannerchrugog;
- CF1 o Gaerdydd;
- Côr Ieuenctid Môn;
- Côr Sioe Ieuenctid Môn