Fe fydd pwerau newydd yn cael eu cyflwyno ar ddydd Sadwrn (Ebrill 6) sy’n golygu y gallai pobol Cymru dalu graddau gwahanol o dreth o gymharu â gweddill gwledydd Prydain.

Mae’n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu addasu treth incwm o 10c i bob £1 ym mhob band.

Bydd 10c o bob band yn mynd yn syth i Drysorlys Cymru er mwyn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn hytrach na mynd trwy Lywodraeth gwledydd Prydain.

Fe fydd lwfans personol – y swm mae pobol yn ei ennill cyn talu treth, yn ogystal â lle mae cyfraddau uwch i bobol sydd â chyflog uwch – yn aros yr un peth â Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd graddau treth incwm yn aros yr un peth yn 2019-20 ac ni fydd newid cyn etholiad y Cynulliad yn 2021.

Ond rhybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, byddai rhaid iddynt wneud newidiadau o dan rhai amgylchiadau.

Brexit

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fyddai yn gofyn i Drysorlys gwledydd Prydain am fwy o arian, yn hytrach na defnyddio’r pwerau treth incwm, i roi hwb i’w chyllideb os yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen.

“Bydd rhyw £ 5bn o refeniw treth ddatganoledig a lleol yn cael ei godi yng Nghymru a bydd yn aros yng Nghymru,” dywed y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Gall gweinidogion Cymru hefyd fenthyg £ 1bn – ddwywaith cymaint ag o’r blaen – i ariannu prosiectau adeiladu a seilwaith, fel rhan o gytundeb y cytunwyd arno gyda Thrysorlys Gwledydd Prydain.