Mae 36 o swyddi newydd wedi eu creu yn Nyffryn Aman yn dilyn gwario £2m ar amrywiaeth o fusnesau diwydiannol.

Bu gwario ar 11 o unedau diwydiannol Gweithdai Glanaman, sy’n cynnwys busnesau ffensio, pren, offer pysgota, atgyweirio dodrefn, stofiau llosgi coed ac offer arlwyo.

Yn flaenorol roedd y gweithdai yn wag ond bydd modd creu gwaith yno unwaith eto gyda’r buddsoddiad gan y Cyngor.

Dyma’r cam cyntaf yn rhaglen pum mlynedd y Cyngor. Bydd y gwaith o gychwyn ar yr ail gam – sef gosod bloc arall o unedau yn lle’r rhai sydd yno yn barod – yn dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y gobaith yw creu cyfanswm o 80 o swyddi newydd.

“Rwy’n falch iawn bod y gweithdai sydd wedi cael eu hadnewyddu bellach yn darparu swyddi ar gyfer nifer o bobl yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad a’r galw am unedau diwydiannol yn yr ardal,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins.

“Pan fydd y ddwy uned sy’n weddill o gam un yn cael eu gosod byddwn yn dechrau ar yr ail gam a fydd yn darparu hyd yn oed yn rhagor o swyddi.”