Mae Rhod Gilbert wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i gyflwyno ei raglen foreol sy’n cael ei darlledu ar BBC Radio Wales bob dydd Sadwrn.

Mae’r comedïwr stand-yp o dref Caerfyrddin wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen, sy’n gymysgedd o gerddoriaeth a sgyrsiau gyda chomedïwyr eraill, ers 2006.

Dywed ei fod wedi penderfynu camu o’r neilltu oherwydd taith stand-yp sydd ar y gweill ganddo eleni, gyda sicrhau amser i gyflwyno bellach yn “profi’n amhosib” iddo.

“Dw i byth yma, sy’n destun cywilydd, ac felly dw i’n camu o’r neilltu, yn syth,” meddai Rhod Gillberts.

“Fe fydda i wrth fy modd yn cael cyfle i wneud ambell raglen ar Radio Wales bob yn awr ac yn y man yn y dyfodol, os ydyn nhw fy eisiau, a dw i’n gwybod bod Sian a Rhosie yn teimlo’r un fath.

“…dw i allan am nawr. Ond gwyliwch y gofod.”