Mae Eiris Llywelyn, dynes 68 oed o Geredigion, yn gwneud “safiad dewr iawn” wrth iddi wrthod talu ffi’r drwydded deledu fel rhan o ymgyrch tros ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Daw sylwadau Aled Powell o Gymdeithas yr Iaith ar ôl i lys roi dirwy o £220 iddi yn dilyn gwrandawiad yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Ebrill 3).

Eiris Llywelyn o Ffostrasol yw’r trydydd person i fynd gerbron llys fel rhan o’r ymgyrch, ond y cyntaf i wrthod talu dirwy.

O ganlyniad, mae hi’n wynebu cyfnod o garchar wrth i Gymdeithas yr Iaith fynnu bod pwerau darlledu yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth.

Ymgyrch ‘mor bwysig â brwydr y 1970au a’r 1980au’

“Mae’r ymgyrch hon yr un mor bwysig â brwydr y 70au a’r 80au dros sefydlu’r sianel,£ meddai Eiris Llywelyn.

“Mae’n frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn amhosibl os na fyddwn yn cael rheolaeth ar y cyfryngau – a’r cyfryngau’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig.

“Mae datganoli’r system ddarlledu yr un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol. System ddarlledu sy’n cael ei rhedeg o San Steffan yw’r un bresennol.

“Cawn ein trin fel rhan o Loegr gan yr holl ddarlledwyr Prydeinig a phropaganda Prydeinig a ddarlledir i ni yng Nghymru yn feunyddiol. San Steffan sy’n dal yr awenau.

“Dyma sy’n gyfrifol am y merddwr darlledu yng Nghymru a pham mai dim ond un sianel deledu sydd gennym – a sicrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol honno yn y fantol; un orsaf radio ac ychydig oriau ar ail orsaf.

“Gadewir i gwmnïau masnachol gael rhwydd hynt i wneud beth a fynnon nhw â radio lleol a dileu’r ychydig oriau Cymraeg a arferai gael eu darlledu.

“Mae’r diffyg ar blatfformau eraill yn drychinebus a Chymru ymhell ar ôl yn y chwyldro digidol.

“Ni fydd yr iaith fyw oni bai ei bod yn cael ei defnyddio ar draws pob cyfrwng a’i bod yn briod iaith cyfryngau digidol yng Nghymru.

“Mae prinder cynnwys Cymraeg ar y we yn fater o ofid ac os nad yw’r Gymraeg yn weledol ac yn addasu i’r oes ddigidol fydd dim dyfodol iddi.”