Fe fydd darn dadleuol o gelf gan yr arlunydd Banksy yn aros yn nhref Port Talbot fel rhan o amgueddfa stryd i’w chynnal yno’n ddiweddarach eleni.

Fe wnaeth y gwaith ymddangos ar garej dros nos ym mis Rhagfyr, ac mae lle i gredu ei fod e’n seiliedig ar lygredd yn y dref.

Fe fydd yn ymuno â nifer o weithiau eraill gan yr arlunydd dirgel yn y dref, ar ôl i John Brandler ei brynu ac addo ei gadw yn yr ardal.

Bydd y gwaith yn cael ei symud i adeilad Tŷ’r Orsaf, hen orsaf heddlu’r dref, yn ôl llythyr gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas at Bethan Sayed.

Hwn yw’r darn cyntaf o waith gan Banksy i ymddangos yng Nghymru.