Mae cronfa a gafodd ei sefydlu gan drigolion ardal Llandysul yn dilyn llifogydd Storm Callum y llynedd wedi codi mwy na £16,000 a rhoi cymorth i 44 o bobol leol.

Cafodd ddwsinau o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan dywydd garw ym mis Hydref, pan orlifodd afon Teifi ei glannau a chreu llanast ym Mhont Tyweli a’r ardal gyfagos.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Gaerfyrddin gronfa gwerth £100,000 ar gyfer trigolion y sir a gafodd eu heffeithio, a chronfa ychwanegol gwerth £200,000 ar gyfer busnesau.

Fe aeth griw o wirfoddolwyr lleol hefyd ati i sefydlu Apêl Cymorth Llifogydd Llandysul a Phont Tyweli, ac erbyn hyn mae’r apêl wedi rhannu cyfanswm o £16,144.42 yn gyfartal rhwng 44 o bobol a ofynnodd am gymorth.

Yn ôl y Cynghorydd Keith Evans, un o weinyddwyr y gronfa, mae’r cyfan o ganlyniad i “haelioni cymunedau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion”.

“Cymaint oedd cryfder y gefnogaeth gan y gymuned fel y penderfynodd rhai o’r rheiny yr effeithiodd y llifogydd arnyn nhw, ac a oedd yn gymwys i gael cymorth gan y gronfa, wrthod y cymorth gan ddweud eu bod yn teimlo bod mwy o’i angen ar bobol eraill,” meddai’r Cynghorydd Keith Evans.

“Roedd y rheiny y cynigwyd cymorth iddyn nhw yn cynnwys cartrefi, mentrau cymunedol a busnesau yn ardal y llifogydd, o Abercerdin i Bont Llandysul.”