Mae penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw i beidio â thorri arian canolfannau iaith y sir, yn dangos fod dwyn pwysau ar wleidyddion yn gweithio, meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 

Mewn ymateb i benderfyniad y cynghorwyr i dreialu un ganolfan iaith dros y flwyddyn nesaf, mae swyddog maes y mudiad iaith yng ngogledd Cymru yn dweud y bydd yn rhaid cadw llygad ar y sefyllfa.

“Mae’r penderfyniad heddiw’n dangos bod ymgyrchu’n gweithio – mae’n amlwg bod Cyngor Gwynedd yn teimlo’r pwysau,” meddai Gwion Emyr. “Fodd bynnag, mae’r penderfyniad hefyd yn golygu cryn ansicrwydd ac mi fydd angen cadw llygaid barcud ar y sefyllfa.

“Wnawn ni ddim derbyn unrhyw israddio ar y Canolfannau Iaith. Ehangu ar y ddarpariaeth addysg i hwyrddyfodiad yng Ngwynedd a gweddill y wlad ddylai fod yn digwydd – nid torri – er mwyn sicrhau’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Does dim cefnogaeth ar lawr gwlad i israddio’r canolfannau na thorri ar y gwasanaeth hollbwysig maen nhw’n eu cynnig,” meddai wedyn. “Maen nhw’n cael effaith bositif ar yr iaith, a hynny yn yr hirdymor.

“Dyma un o’r llwyddiannau mwyaf sydd wedi bod o ran cynnwys hwyrddyfodiaid – maen nhw’n golygu bod modd cadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i’r bobol ifanc sy’n symud i’r ardal.”