Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi mai Ann Postle o Fodedern, Ynys Môn, fydd yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol am gyfraniad gan unigolyn i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Ann Postle, sy’n fam i ddau o blant, yn gweithio o ddydd i ddydd fel Hyfforddwr ym maes gwaith cymdeithasol, ac wedi bod yn weithgar dros y blynyddoedd yn cynorthwyo Aelwyd yr Ynys ac Uwch Adran yr Ynys.

Bu hefyd yn allweddol yn sefydlu Adran Bro Alaw bedair blynedd yn ôl ac, yn ddiweddar, sefydlodd Adran Bach ar gyfer criw o bant oed y Cyfnod Sylfaen.

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi bod yn sgriptio, hyfforddi a chyfarwyddo nifer o berfformiadau ar gyfer eisteddfodau yn y gymuned, yn ogystal â chynnal perfformiadau, nosweithiau cymdeithasol a chodi arian at achosion da.

Cafodd wybod mai hi fydd yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn Eisteddfod Rhanbarth Môn dros y penwythnos.

Bydd seremoni arbennig ar gyfer cyflwyno’r wobr yn cael ei chynnal ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.