Mae darlledwr o Gymru wedi penderfynu dweud yn gyhoeddus bod ganddo ganser y coluddyn yn y gobaith y bydd yn helpu eraill.

Fe gafodd Jeremy Bowen, 59, sy’n un o newyddiadurwyr amlycaf y BBC, wybod bod ganddo ganser y coluddyn ym mis Hydref y llynedd ar ôl dioddef o boenau yn ei goesau a’i gefn.

Roedd y gŵr sy’n hanu o Gaerdydd wedi cadw’n dawel am y salwch am rai misoedd, cyn penderfynu mynd yn gyhoeddus yn ystod y mis sy’n codi ymwybyddiaeth am y canser.

Roedd yn siarad am ei brofiad ar raglen BBC Breakfast y bore yma (dydd Llun, Ebrill 1).

“Os ydy dod ar eich rhaglen yn golygu y bydd rhai pobol ychwanegol yn mynd am brofion ac o ganlyniad i hynny mae’r canser yn cael ei ddal, yna mae’n amser sydd wedi ei dreulio’n werth chweil,” meddai.

Mae Jeremy Bowen, sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn ohebydd rhyfel y BBC, bellach yn un o noddwyr elusen Bowel Cancer UK.

“Dw i wedi bod yn dweud wrth bob un o’m ffrindiau, ‘ewch i gael eich profi’,” meddai. “Mae pobol dw i’n eu nabod wedi bod yn ymweld â’u doctoriaid er mwyn derbyn profion o ganlyniad i’r diagnosis a gefais i.”