Mae’r gwaith o adnewyddu Ysgol Pontyberem bellach wedi ei gwblhau, ar ôl i Gyngor Sir Gaerfyrddin fuddsoddi £4m yn y prosiect.

Roedd y prosiect, a wnaeth ddechrau ym mis Gorffennaf 2017, yn cael ei arwain gan y datblygwyr lleol, Lloyd a Gravell.

Roedd y gwaith mewnol yn cynnwys “ailwampio’r adeilad yn llwyr”, meddai’r cyngor, wrth osod lloriau a nenfydau newydd, lifft ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, a system awyru newydd.

Cafodd ystafelloedd arbenigol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, dylunio a thechnoleg a chelf eu creu hefyd, ynghyd â thoiledau newydd.

Cafodd y cyfan ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a rhaglen Llywodraeth Cymru – Ysgolion yr 21ain Ganrif.

“Gwych oedd gweld y trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn Ysgol Pontyberem,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies, aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Addysg.

“Mae’n edrych fel pe baem wedi creu ysgol newydd ac, yn bwysicach na hynny, mae bellach yn darparu’r amgylchedd dysgu o safon uchel rydym yn ei greu drwy’r Rhaglen Moderneiddio Addysg – gan ddiwallu anghenion y disgyblion a’r athrawon.”

Bydd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf.