Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud iddyn nhw gael “sioc” o glywed nad oedd gan David Ibbotson, peilot yr awyren a blymiodd i’r ddaear gan ladd Emiliano Sala, yr hawl i hedfan yn y nos.

Mae’r clwb yn dweud bod ganddyn nhw “bryderon dwys” ynghylch y trefniadau ar gyfer y daith.

Bu farw’r Archentwr Emiliano Sala, oedd newydd symud o glwb Nantes yn Llydaw, pan ddaeth yr awyren i lawr tros y Sianel ar Ionawr 21, ddeuddydd ar ôl iddo arwyddo i’r Adar Gleision.

Yn ôl adroddiadau, roedd David Ibbotson yn lliwddall, a bod hynny’n golygu mai trwydded ar gyfer y dydd yn unig oedd ganddo.

‘Pryderus iawn’

“Mae Clwb Pêl-droed wedi cael sioc o glywed ei bod yn bosib nad oedd gan y peilot David Ibbotson yr hawl i hedfan yn y nos,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Mae’r clwb yn parhau’n bryderus iawn fod y peilot, a’r sawl oedd wedi trefnu’r daith, fel pe baen nhw wedi anwybyddu rheolau hedfan yn llwyr ac wedi peryglu bywyd Mr Sala yn y fath fodd.

“Rydym yn credu y dylid dwyn y sawl sydd yn gyfrifol yn llwyr i gyfri am eu gweithredoedd.

“Rydym yn ategu ein cefnogaeth i alwad Cymdeithas y Siarter Awyr am ragor o ymwybyddiaeth a gwell orfodaeth yn erbyn hediadau anghyfreithlon.”