Mae cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ger Bannau Brycheiniog am 9 o’r gloch.

Cafodd y cerddwr ei daro gan gar Renault Clio coch, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.