Mae Heddlu’r De ymhlith saith o heddluoedd sy’n derbyn pwerau stopio a chwilio newydd yn y frwydr i geisio lleihau nifer y troseddau â chyllyll.

Fe fydd miloedd yn rhagor o blismyn bellach yn gallu awdurdodi cyrchoedd stopio a chwilio ar ôl i reolau gael eu llacio.

O heddiw (dydd Sul, Mawrth 31) ymlaen, fe fydd plismyn yn y rhengoedd is yn gallu stopio a chwilio am gyfnod penodol os oes disgwyl y gallai digwyddiad treisgar godi.

Yn ôl y pwerau, fe fydd plismyn yn gallu stopio a chwilio pobol neu gerbydau pa un a oes ganddyn nhw resymau da dros gredu y byddan nhw’n dod o hyd i gyllyll ai peidio.

‘Pwerau effeithiol dros ben’

“Mae stopio a chwilio yn bŵer effeithiol dros ben pan ddaw i darfu ar dorcyfraith, cymryd arfau oddi ar ein strydoedd a’n cadw ni’n ddiogel,” meddai Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Cartref.

“Dyna pam ein bod ni’n ei gwneud yn fwy syml i heddluoedd mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio’n benodol gan drais difrifol i ddefnyddio Adran 60 a chynyddu nifer y plismyn all awdurdodi’r pwerau.”

Fe fydd Theresa May yn arwain uwchgynhadledd ar droseddau’r ifanc ddydd Llun (Ebrill 1).

“Fel cymdeithas gyfan, mae hefyd angen i ni edrych yn ofalus ar yr hyn sydd wrth wraidd y troseddau hyn fel y gallwn ni ymyrryd yn gynharach ac atal pobol ifanc rhag cael eu tynnu i mewn i drais yn y lle cyntaf,” meddai.

Fe fu’r pwerau dan y lach ers tro am fod ymdeimlad eu bod yn targedu pobol groenddu yn annheg.

Bydd y pwerau newydd hefyd yn dod i rym yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Glannau Mersi, De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog a Manceinion Fawr.