Bydd 42 o ymladdwyr yn cwffio cawell yng Nghaernarfon nos Sadwrn yn Neuadd y Farchnad.

Mae ‘Market Mayhem’ wedi denu ymladdwyr lleol yn o gystal â rhai o bob cwr o wledydd Prydain.

Bydd 21 o frwydrau tair rownd yr un, ble bydd paffwyr crefftau cwffio Mixed Martial Arts (MMA) a bocsio, ac yn amrywio o ymladdwyr  profiadol i rai dibrofiad.

Daeth cwffio cawell i Gaernarfon am y tro cyntaf yn 2015 a chynhaliwyd yr ymladd diwethaf ym mis Medi’r llynedd.

Chris Pritchard – cyd-berchenog Pritchards’s Martial Arts yn y dref – sy’n trefnu’r noson.

Er ei fod yn hyfforddi crefftau ymladd ers bron i 19 mlynedd, dyma’r flwyddyn gyntaf iddo gamu mewn i’r gawell ei hun.

“Rwyf wedi profi fy hun fy mod i’n gallu hyfforddi cic bocsio, bocsio, Jiu Jitsu ac MMA gyda nifer o fuddugoliaethau a theitlau,” mae Chris Pritchard yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hi rŵan yn amser i mi ddangos be alla i wneud. Dw i’n gobeithio gallwch chi ddod i gefnogi fi yn fy mrwydr gyntaf yn y gawell.”