Mae disgwyl i deulu o ardal Dolgellau gyfarfod ag Arweinydd Cyngor Gwynedd ddechrau’r wythnos nesaf er mwyn trafod y toriadau posib i ganolfannau iaith y sir.

Cafodd Marcus Smith ei drochi yng nghanolfan iaith Llangybi pan symudodd ei deulu o Gaint i Dalysarn ddechrau’r 1990au, ac mae bellach yn magu ei deulu ei hun drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Bydd Marcus Smith a’i deulu yn cyfarfod Arweinydd Cyngor Gwynedd ddydd Llun (Ebrill 1), ddiwrnod cyn i gabinet y Cyngor wneud penderfyniad terfynol ynghylch tynged y canolfannau.

Bwriad Cabinet y Cyngor yw torri £96,000 o gyllideb y canolfannau o fis Medi ymlaen, oherwydd eu bod nhw’n derbyn £61,000 yn llai gan Lywodraeth Cymru i’w cynnal ac yn gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau pensiwn.

Ddechrau’r mis (Mawrth 7), fe bleidleisiodd cyfarfod llawn o gynghorwyr y sir yn erbyn torri arian y canolfannau hyn, ac yn ddiweddar mae 12 cyngor cymuned a dau gyngor tref yng Ngwynedd wedi galw am beidio â thorri’r cyllid.

Canolfannau iaith – “hanfodol i barhad yr iaith”

Bydd Annest Smith – gwraig Marcus Smith – ymhlith y siaradwyr mewn protest fydd yn cael ei chynnal gan fudiadau iaith ar y Maes yng Nghaernarfon yfory (dydd Sadwrn, Mawrth 30).

“Diolch i’r ganolfan yma [Llangybi] a’i staff, mae Marcus yn byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn siarad Cymraeg naturiol gyda’i blant,” meddai Annest Smith.

“Annhebygol iawn fyddai hyn os na fyddai o wedi mynychu’r ganolfan iaith. Fel y gwyddoch, rydym yn deulu uniaith Gymraeg yn y cartref, ac mae Marcus bellach yn rhan o gymuned amaethyddol cefn gwlad Meirionydd.

“Mae’r canolfannau hyn yn cael effaith hir dymor ar gymaint o bobol a theuluoedd yng Ngwynedd. Maent yn hanfodol i barhad yr iaith yn y sir a thu hwnt.

“Byddai unrhyw doriadau i’r canolfannau yn niweidiol iawn, ac y tynnu’n groes i bolisi iaith Cyngor Gwynedd.”

Y siaradwyr eraill yn y brotest fydd Simon Brooks, Geraint Jones, Angharad Tomos a Ruth Richards o Ddyfodol i’r Iaith.