Mae canolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon wedi denu dros 30,000 i wylio ffilmiau ers agor dwy sinema newydd chwe mis yn ôl.

Cafodd dwy sgrin newydd eu hagor mewn estyniad i Galeri fis Medi’r llynedd gan yr actor Rhys Ifans, yn dilyn cyfnod o wyth mlynedd o gynllunio’r prosiect gwerth £4m.

Roedd Galeri wedi gobeithio gwerthu 500 tocyn yr wythnos – ond mae dros 1,000 yr wythnos wedi bod yn heidio yno i wylio ffilmiau.

Y ffilmiau mwyaf poblogaidd oedd Bohemian Rhapsody, Mary Poppins Returns, The Grinch, A Star is Born a Lego Movie 2: The Second Part.

 Creu tair swydd newydd

“Rydym yn hynod falch bod y sinema yn cael ei ddefnyddio cymaint gan unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a thripiau ysgol ac ati,” meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri.

“Oherwydd y llwyddiant – rydym wedi gallu creu tair swydd newydd yma.”

Rhwng y ddwy sgrin, mae lle i 184 o bobol, “sy’n golygu ein bod ni bellach yn gallu ymrwymo i ddangos y ffilmiau ar ddyddiad rhyddhau am gyfnod o bythefnos o leiaf bob tro” ychwanegodd Gwyn Roberts.

Roedd yr arian ar gyfer y sinema newydd wedi dod o bedair ffynhonnell – £1.8m o goffrau Croeso Cymru, £1.5m gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £185,000 gan Lywodraeth Cymru, a’r gweddill gan Galeri Caernarfon Cyf.