Mae cynghorydd annibynnol ym Mhowys yn wynebu cael ei wahardd o’i waith am hyd at bum mlynedd, os yw yn cael ei ganfod yn euog o roi slap i ben-ôl cynghorydd arall.

Mae’r Cynghorydd Edwin Roderick wedi ei gyhuddo o slapio pen-ôl y Cynghorydd Emily Durrant mewn cyfarfod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yn wreiddiol fe gafodd cwynion am ymddygiad y cynghorydd eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Bellach mae’r mater yn nwylo Panel Dyfarnu Cymru a’r corff hwnnw fydd yn gwrando ar dystiolaeth am yr achos.

 Cosb bosib

Yn ôl côd ymddygiad Panel Dyfarnu Cymru, fe allai’r cynghorydd – pe bae yn euog – wynebu’r cosbau canlynol yn dilyn proses pum cam y Panel:

  1. dim cosb o gwbl
  2. gwaharddiad o’r awdurdod am 12 mis
  3. gwaharddiad o fod yn aelod o’r awdurdod neu unrhyw awdurdod arall am 5 mlynedd.

Yn ôl pwynt 37 o’r côd ymddygiad mae “camymddwyn rhywiol, ymddygiad troseddol, gwahaniaethau ysglyfaethu, a bwlio a / neu aflonyddu i gyd yn debygol o gael eu hystyried yn doriadau difrifol iawn”.

Nid yw’r dyddiad ar gyfer gwrandawiad y Cynghorydd Edwin Roderick wedi ei benderfynu hyd yma.