Mae elusen yr RSPCA wedi lansio apêl am wybodaeth ar ôl i geffyl cael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol yn Aberfan ger Merthyr Tudful.

Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i’r ceffyl oedd wedi cwympo mewn cae tu ôl i Fryngoleu, cyn cysylltu gyda’r RSPCA.

Roedd rhaid i archwilydd yr elusen, Gemma Cooper, ddifa’r ceffyl oherwydd bod ei “chyflwr yn rhy ddifrifol.”

“Roedd y ceffyl hwn yn amlwg mewn ffordd ddrwg – roedd hi o dan bwysau ac roedd ganddi belfis wedi torri,” meddai Gemma Cooper.

“Roedd y ceffyl gyda sglodyn ynddi, ond doedd y rhifau ddim mewn defnydd rhagor sy’n golygu fod ganddi berchennog yn rhywle, a hoffem ni siarad gyda nhw.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0300 123 8018.