Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn damwain rhwng pedwar cerbyd ar ffordd yr A470 rhwng Libanus a Storey Arms dros y penwythnos (dydd Sul, Mawrth 24).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 2yp yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng fan, car a dau feic modur ar gyffordd sy’n arwain at ffordd yr A4215.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, cafodd gyrrwr y Suzuki fân anafiadau, tra bo gyrrwr yr Harley Davidson yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Bu’r ffordd ynghau tan 5yh ddoe tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.