Mae perchnogion tafarn gymunedol yn Sir Benfro wedi wfftio sibrydion ynghylch y ffaith ei bod yn fwriad ganddyn nhw i droi’r lle yn “amgueddfa”.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod yn nwylo’r gymuned ers 2017, wedi iddyn nhw arwain ymgyrch codi arian lwyddiannus a ddenodd gefnogaeth gan enwogion fel yr actor, Rhys Ifans.

Ond yn ddiweddar, mae rhai trigolion lleol wedi mynegi pryderon ynghylch y bwriad honedig i drawsnewid y dafarn enwog yn amgueddfa, gan ddod â’r busnes presennol – y dafarn a’r bwyty – i ben.

Ond mewn datganiad swyddogol, mae perchnogion Tafarn Sinc yn mynnu nad yw hynny’n fwriad ganddyn nhw, a bod y lle am “barhau i fasnachu fel tafarn cymunedol”.

Eu bwriad, medden nhw, yw ffurfio is-gwmni masnachu, tra bydd y prif gwmni, sef Cymdeithas Tafarn Sinc, yn gyfrifol am yr “ased treftadaeth” ac felly’n agored i gael ei gofrestru’n elusen.

Maen nhw’n ychwanegu y bydd hyn “o fantais i’r gymuned”, a bod y bwriad eisoes wedi cael ei gymeradwyo’n gyfreithiol.

Dim ond gair i egluro ynghylch sibrydion Just a word of explanation regarding rumoursFe fydd Tafarn Sinc yn parhau i…

Posted by Tafarn Sinc on Saturday, 23 March 2019