Mae cwmni Majestic Wine wedi cyhoeddi ei fwriad i gau siopau fel rhan o gynllun i ail-strwythuro’r busnes heb gostau ychwanegol.

Tydi’r cwmni gwin heb ddweud faint o siopau fydd yn cau, ond dywedodd y pennaeth Rowan Gormley “nad oedd dewis” ganddo ond gwneud hyn.

Mae dwy siop Majestic Wine wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, ac mae un yr un ym Mangor ac Abertawe – mae tua 200 ar draws gwledydd Prydain.

Bydd y cwmni yn cael ei ail-frandio fel Naked Wines – y grŵp wnaeth gymryd drosodd yn 2015. Mae disgwyl iddyn nhw fuddsoddi £6m yn ychwanegol y flwyddyn i’r busnes.

Dywed Majestic Wine heddiw (Dydd Llun, Mawrth 25) ei fod yn disgwyl cyrraedd y targed gwerthiant o £500m eleni.