Bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd y cam nesaf tuag at ddiogelu hawliau plant drwy gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol heddiw (Dydd Llun, Mawrth 25).

Os bydd y Bil Plant yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, ni fydd oedolion a rhai sy’n cymryd cyfrifoldeb rhieni yn gallu cosbi plant yn gorfforol.

O ganlyniad, bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.

Bydd Bil Plant yn gwneud hyn drwy gael gwared ar yr amddiffyniad yn y gyfraith ar gosb resymol, fel na all unrhyw oedolyn sy’n cymryd cyfrifoldeb rhiant ei ddefnyddio fel amddiffyniad.

Mae’n golygu felly na allant gosbi plentyn yn gorfforol yn ôl y gyfraith.

“Anfon neges glir”

Mae ymchwil gafodd ei gyhoeddi llynedd yn dangos fod agweddau tuag at gosbi plant yn newid .

Dywed 81% o rieni eu bod yn anghytuno bod angen taro plentyn drwg weithiau, sy’n gynnydd sylweddol o 71% ers 2015.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Bil yn seiliedig ar eu hymrwymiad o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

“Rydyn ni’n anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru,” meddai’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

“Nid yw’r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach. Rhaid i’n plant ni deimlo eu bod yn ddiogel a’u bod yn cael eu trin ag urddas.”

“Diogelu Hawliau Plant”

Yn ôl yr arolwg dim ond 11% o rieni plant bach wnaeth nodi eu bod wedi taro eu plant yn ystod y chwe mis diwethaf fel ffordd o reoli eu hymddygiad.

“Fel un o’r gwledydd mwyaf blaengar yn y byd o safbwynt hyrwyddo hawliau plant, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn deddfu i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, gan hyrwyddo ymhellach hawliau plant,” meddai Julie Morgan.

Mae’r Bil Plant yn rhan o becyn ehangach i roi cymorth i blant a rheini sy’n cynnwys yr ymgyrch Magu Plant, ac amrywiaeth o wasanaethau sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan rieni gan y Gwasanaeth Iechyd.

“Does dim byd rhesymol am gosbi plentyn yn gorfforol. Mae’r Bil hwn yn anfon neges glir bod Cymru’n wlad sy’n amddiffyn plant,” meddai’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.