Fe allai mudiad cenedlaetholgar Cymru ddysgu oddi wrth Brexit, yn ôl cyn-Arewinydd Plaid Cymru.

Wrth annerch aelodau’r Blaid yn eu cynhadledd ym Mangor, mae Leanne Wood wedi dweud bod angen i’r mudiad annibyniaeth fod “yn hollol i’r gwrthwyneb” o fudiad Brexit.

Ond mae hefyd wedi dadlau bod modd i genedlaetholwyr ddysgu o’i fethiannau.

“Ymgyrch annibyniaeth yw Brexit – a rhaid i ni ddysgu oddi wrtho,” meddai wrth aelodau.

“Mae Brexit wedi cynnig breuddwyd ffals … ac wedi gofyn i bobol gymryd leap of faith. Rhaid i ni sicrhau nad yw ein gweledigaeth yn gofyn i bobol Cymru wneud hynny.

“Rhaid i’n gweledigaeth newid bywydau er y gorau – nid er gwaethaf. Dyna y gallwn ddysgu oddi wrth Brexit.

Ynni gwyrdd

Yn ei hanerchiad, mae Leanne Wood hefyd wedi dweud y dylai Cymru “arwain y gad o ran datblygu economi di-garbon.”

A gallai Cymru elwa yn fwy o’i chyfoeth naturiol, meddai.

“Mae Cymru yn wlad gyfoethog ond mae’r system wedi ein cadw’n dlawd,” meddai. “… Pe bai Cymru’n cael ei lywodraethu yn iawn, byddai’n wyrdd ac yn annibynnol.

“Mae Lloegr angen Cymru a’i adnoddau naturiol. Mae Cymru yn darparu swm hynod o bŵer i Loegr. Dydyn ni methu newid hynna. Ond mi allwn newid pwy sydd yn elwa o hynny.”

Pobol ifanc

Gan dynnu sylw at brotestiadau ledled Ewrop, mae Aelod cynulliad y Rhondda hefyd wedi diolch pobol ifanc am eu gwrthdystio yn erbyn newid hinsawdd.

“Diolch o galon i’r holl bobol ifanc sydd yn ein gorfodi ni, y gwleidyddion, i gymryd newid hinsawdd o ddifri,” meddai. “Rydych chi oll yn ysbrydoledig. Parhewch, da chi. Rydym eich angen chi.

“Mae’r bobol ifanc yn dweud wrthym fod amser yn brin. Dw i’n gobeithio y byddwn ni yn gwrando arnyn nhw. Dw i’n gobeithio y bydd Cymru yn gwrando arnyn nhw.

“Am beth ydym ni’n aros? Beth am ddechrau hyn yn awr!”