Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi beirniadu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hallt, gan alw am ei ymddiswyddiad.

Wrth agor ail ddiwrnod cynhadledd wanwyn Plaid Cymru ym Mangor heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 23), mae Arfon Jones wedi cyhuddo Alun Cairns o gynnal “gemau plentynnaidd” sydd wedi amharu ar gydweithio rhwng y lluoedd yng Nghymru.

Mae Arfon Jones yn dweud iddo deimlio’n “rhwystredig” tros “baranoia unoliaethol a “styfnigrwydd analluog” Alun Cairns trwy beidio â chyfarfod â chomisiynwyr a phrif gwnstabliaid y pedwar llu.

A gan adleisio sylwadau gan Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae wedi galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gamu o’r neilltu.

“Os ydyn ni’n mynd i gyflwyno gwelliannau eraill i Gymru, rhaid gwaredu Alun Cairns cyn symud ymlaen,” meddai wrth aelodau Plaid Cymru.

Brexit

Wrth annerch y gynhadledd, fe soniodd y Comisiynydd hefyd am ei bryderon ynghylch trais a chyllyll, a Brexit.

“Yr unig beth dw i’n gweld yn dod o San Steffan yw dinistr a niwed,” meddai. “… Ychydig iawn o drafod sydd wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi am effaith Brexit ar ddiogelwch.”